- Cofiannau
- Roedd yr ogof yn gofiant:
anifeiliaid a than, fel lluniau plant
ymhob marw, pob rhamant.
- Rhoddwyd pob diferyn o dalent
fel yr aeron sur ar fur di-rent
eu cartref a'u mynwent
- i gyhoeddi'n derfynol
yn felyn a choch, yn wlyb ddiferol
y buont yma'n byw. Ac ar eu hol
- gadawsant nid esgyrn yn unig
ond y waedd oesol, gyntefig,
y waedd sy'n dal i chwarae mig
- yn swbwrbia'r llenni tynn,
ar ddalennau pob perthyn,
yn storiau'r dyddiau hyn.
- Ar fas-data'n profiadau
bathwn ystyr a geiriau
pennod arall yn agor a chau.
- Y Prifardd Dafydd Pritchard
Llyfrgellydd Cynorthwyoll, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Assitant Librarian, National Library of Wales
Bardd y Goron 1996
Crowned Bard 1996
- 'Confiannau' means 'Biographies'. From the day man inhabited caves he
felt a need to express himself, orginally with simple pictures painted
on cave walls, and people have always wanted to know about those who
have gone before them. The urge remains; only the technology has
changed.
'Cofiannau' copyright © 1997, Dafydd John
Pritchard
Report converted to HTML and hosted by
UKOLN
on behalf of the Library and Information
Commission.
Email technical queries on this website to
webmaster@ukoln.ac.uk